No Shame! @ London Welsh Centre NOVEMBER 27th 2019
August 22, 2019

Dim C’wilydd! @ Acapela, Caerdydd Rhagfyr 1af 2019

Tocynnau – https://www.acapela.co.uk/events/dim-cwilydd-gan-stifyn-parri/   02920 890862

I gyd-fynd gyda lawnsiad ei hynangofiant hynod lwyddiannus Allan â Fo!, mae Stifyn Parri sydd wedi serenu yn Les Miserables a Brookside yn dod â’i sioe Un Dyn ‘Dim C’wilydd!’ i Acapela, sydd yn gasgliad camp o straeon am enwogion y byd showbiz a hanesion drygionus hunangofiannol.’Does neb yn saff! Dowch am laff!

Mae hon yn sioe un-dyn onest, ddrygionus ac unigryw gan un o gegau mwya’r wlad sydd wedi gweithio hefo rhai o sêr mwya’r byd.

Mae’r entrepreneur a’r diddanwr Stifyn Parri wedi serennu yn y West End ac wedi gweithio hefo rhai o enwau mwya’r diwydiant, yn sêr Hollywood, y teulu brenhinol, a fo oedd yn gyfrifol am y gusan hoyw gynta ar deledu a ymddangosodd ar y newyddion cenedlaethol! Ar ôl llwyddiant ysgubol ei sioe ‘CAU DY GEG!’ mae o’n ôl hefo casgliad newydd sbon o gyfrinache cefn llwyfan a hanesion helariws o gywilyddus ei fywyd hyd yn hyn. Di-lol, di-flewyn ar dafod a dig’wilydd!

Dychmygwch stand-up, hunangofiant a chylchgrawn clecs yn gymysg oll i gyd!