Tocynnau ar werth yn y theatr  @ www.theatrausirgar.co.uk  0345 2263510 Diolch x

Mae hon yn sioe un dyn, heb flewyn ar dafod gan un o gegau mwya’r wlad sydd wedi gweithio hefo rhai o ser mwya’r byd.Mae’r entrepreneur a’r diddanwr Stifyn Parri wedi serennu yn y West End ac wedi gweithio hefo rhai o enwau mwya’r diwydiant, yn ser Hollywood, y teulu Frenhinol, a fo oedd yn gyfrifol am y gusan gynta hoyw ar deledu ag ymddangosodd ar y Nedwyddion Cenedlaethol! Ar ol blynyddoedd o gadw ei geg ar gau gau, ma’ hi’n amser iddo rannu’r ‘tantrums’, y cyfrinache a’r  ddrama gefn llwyfan.Dychmygwch Stand-up, hynangofiant a chylchgrawn clecs yn gymysg oll.